Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 13 Medi
2016
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3696
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.20
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddiad Ford y bydd yn cynhyrchu llai o beiriannau yn ei ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr?EAQ(5)0037(EI)
Dechreuodd yr eitem am 14.38
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Fyrddau Iechyd Prifysgolion Abertawe Bro Morgannwg, Caerdydd a'r Fro a Hywel Da yn sgil eu codi i statws ymyrraeth wedi'i thargedu? EAQ(5)0036(HWS)
Dechreuodd yr eitem am 15.01
Dechreuodd yr eitem am 15.25
Dechreuodd yr eitem am 16.20
Dechreuodd yr eitem am 17.04
Dechreuodd yr eitem am 17.48
NDM6082 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Camddefnyddio
Sylweddau, fel y'u hamlinellir yn Camddefnyddio Sylweddau: Cynllun
Cyflawni 2016-18.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1.
Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y problemau cynhenid o ran darparu gwasanaethau trin camddefnyddio sylweddau ledled Cymru, o gofio bod yr ystadegau diweddaraf gan Gronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau yn dangos mai dim ond 13 y cant o unigolion a ystyriwyd yn rhydd o sylweddau erbyn diwedd y driniaeth o bob un a gafodd eu cyfeirio i asiantaethau cyffuriau ac alcohol yng Nghymru.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fyfyrio ar y data diweddaraf gan GIG Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau a chyflwyno cynigion a fydd yn sicrhau bod camddefnyddwyr sylweddau yn cael gafael ar driniaeth amserol ac effeithiol.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
NDM6082 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Camddefnyddio
Sylweddau, fel y'u hamlinellir yn Camddefnyddio Sylweddau: Cynllun
Cyflawni 2016-18.
2. Yn cydnabod y problemau cynhenid o ran darparu gwasanaethau
trin camddefnyddio sylweddau ledled Cymru, o gofio bod yr ystadegau
diweddaraf gan Gronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar Gamddefnyddio
Sylweddau yn dangos mai dim ond 13 y cant o unigolion a ystyriwyd
yn rhydd o sylweddau erbyn diwedd y driniaeth o bob un a gafodd eu
cyfeirio i asiantaethau cyffuriau ac alcohol yng
Nghymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fyfyrio ar y data diweddaraf gan GIG Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau a chyflwyno cynigion a fydd yn sicrhau bod camddefnyddwyr sylweddau yn cael gafael ar driniaeth amserol ac effeithiol.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Nid oedd cyfnod pleidleisio.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.21
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 14 Medi 2016